Skip to main content

Y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad ASau i sefydlu Bwrdd Rheilffyrdd Cymru i ysgogi gwelliannau

22 September 2021

Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar Seilwaith Rheilffyrdd Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi derbyn yn rhannol argymhelliad i greu fforwm benodol er mwyn sicrhau gwelliannau i deithwyr trên yng Nghymru.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor bod angen dull mwy cydlynol a chlir er mwyn datgloi buddsoddiad yn y rheilffyrdd i ysgogi gwelliannau. O ganlyniad, argymhellodd adroddiad y Pwyllgor y dylid sefydlu Bwrdd Rheilffyrdd Cymru, “sy’n cynnwys y Llywodraeth ei hun, Llywodraeth Cymru, Network Rail, gweithredwyr y rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru, a Thrafnidiaeth Cymru. Byddai’r Bwrdd yn gyfrifol am nodi a datblygu cyfres o gynigion yn ôl blaenoriaeth ar gyfer gwella a buddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru.” Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn cydnabod y buddion posib a godir gan y Pwyllgor ac yn cynnig sefydlu Bwrdd lefel uwch gyda chyfrifoldebau sy’n cynnwys datblygu a sicrhau gwelliannau i'r rheilffyrdd. Dywedodd y Llywodraeth y bydd y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth ar lefel cyfarwyddwr o Lywodraeth Cymru, Yr Adran Drafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a gweithredwyr y rheilffyrdd eraill sy’n gwasanaethu teithwyr yng Nghymru. Y bwriad yw i'r Bwrdd gwrdd am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn galendr hon.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:

“Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn newydd calonogol. Clywsom gan nifer o dystion yn ystod ein hymchwiliad bod angen mwy o gyd-drefnu er mwyn ysgogi buddsoddiad a gwelliannau, a gobeithiaf y bydd y Bwrdd yn ei sicrhau. Rydym hefyd yn croesawu pa mor gyflym y mae’r Bwrdd yn mynd i ddechrau cwrdd, a gobeithiaf y bydd pobl dros Gymru yn dechrau teimlo'r buddion yn cael eu trosglwyddo i'w siwrneiau ar y trên.” 

Further information

Image: unsplash