Skip to main content

Ken Skates a Syr Peter Hendy yn rhoi tystiolaeth ar seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru

22 February 2021

Bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, Ken Skates AS a Syr Peter Hendy CBE o Network Rail yn cael eu holi gan ASau ar y Pwyllgor Materion Cymreig ynghylch pynciau fel buddsoddi yn system rheilffyrdd Cymru ac Adolygiad Cysylltedd yr Undeb pan fydd y Pwyllgor yn ailgydio yn ei ymchwiliad i seilwaith rheilffyrdd Cymru ddydd Iau.

Tystion

Am 09.30

  • Syr Peter Hendy CBE, Cadeirydd, Network Rail

Am 10.30 (tua)

  • Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru

Cynhelir y sesiwn ar adeg allweddol ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd. Er bod Llywodraeth y DU yn cynnal Adolygiad Cysylltedd yr Undeb dan arweiniad Syr Peter Hendy i archwilio sut y gall isadeiledd trafnidiaeth hybu twf economaidd ledled y DU, pery ansicrwydd ynghylch effaith y coronafeirws ar fuddsoddi ac arferion teithwyr.

Ymysg y pynciau mae’r Pwyllgor yn debygol o’u harchwilio gyda Syr Peter a Mr Skates fydd:

  • Adolygiad Cysylltedd yr Undeb a’r hyn a allai ei olygu i Gymru;
  • goblygiadau posib unrhyw ddatganoli pellach i seilwaith y rheilffyrdd;
  • lefelau buddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru; ac
  • effaith Covid-19 ar wasanaethau’r rheilffyrdd.

Further information

Image: PA