Seilwaith rheilffyrdd Cymru: Gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a gweithredwyr cledrau yn rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig
8 February 2021
Bydd Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr gwasanaethau trenau yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig wrth i’r Pwyllgor ystyried anghenion seilwaith a rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn y dyfodol.
- Gwyliwch y sesiwn ar Senedd y teledu
- Ymholiad: Seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru
- Pwyllgor Materion Cymru
Bydd tystion yn rhoi tystiolaeth ar ffurf dau banel. Yn ystod y panel cyntaf gyda Network Rail a Trafnidiaeth Cymru bydd ASau yn debygol o archwilio:
- goblygiadau terfynu’r model rhyddfreinio rheilffyrdd;
- effeithiolrwydd a thegwch lefelau a dyraniad buddsoddiad mewn seilwaith;
- Adolygiad Cysylltedd yr Undeb.
Ymysg y pynciau mae’r Pwyllgor yn debygol o’u harchwilio yn ystod yr ail banel gydag arweinwyr o reilffyrdd Great Western, West Coast a CrossCountry railways fydd:
- heriau wrth gyflenwi gwasanaethau rheilffyrdd;
- addasrwydd methodoleg yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch cyllido prosiectau rheilffyrdd;
- effaith Covid-19 ar gynaliadwyedd y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Y sesiwn ddydd Iau fydd ail sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor ar gyfer ymchwiliad i seilwaith rheilffyrdd Cymru.
Tystion
Ddydd Iau 11 Chwefror 2021 dros Zoom
Am 9.30am:
- James Price, Prif Weithredwr, Trafnidiaeth Cymru;
- Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybr Cymru a’r Gororau, Network Rail.
Am 10.30am:
- Mark Hopwood, Rheolwr Gyfarwyddwr, Great Western Railway;
- Richard Scott, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Strategaeth, West Coast Partnership;
- Sarah Kelley, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru a’r Gorllewin, CrossCountry.
Gwybodaeth bellach
Delwedd: © M J Richardson (cc-by-sa/2.0)