Skip to main content

Buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru: ASau yn holi arbenigwyr

18 January 2021

Bydd buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru ac effaith Covid ar wasanaethau teithwyr yn cael eu harchwilio gan y Pwyllgor Materion Cymreig pan fydd yn holi panel o arbenigwyr yn y maes ddydd Iau.

Bydd Ymchwiliad Seilwaith Rheilffyrdd yng Nghymru, yn ystod ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar lafar, yn archwilio sut y gwneir penderfyniadau ynghylch lefelau buddsoddiad yng Nghymru a sut y gall llywodraethau’r DU a Chymru gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau.

Mae rheilffyrdd yn y DU yn cael eu diwygio wrth i Llywodraeth y DU derfynu’r model rhyddfreinio a ddefnyddiwyd ers dechrau preifateiddio yn 1994. Yn y cyfamser, gallai ymrwymiadau Llywodraeth y DU i sicrhau cyfartaledd rhwng gwahanol ardaloedd y DU a lleihau allyriadau carbon erbyn 2050 gynnig cyfle pellach i ehangu rheilffyrdd ledled y wlad. Fodd bynnag, mae ansicrwydd sylweddol ynghylch effaith tymor canolig a hirdymor y pandemig Coronafeirws ar wasanaethau a buddsoddiad mewn rheilffyrdd.

Dyma’r pynciau y bydd y sesiwn dystiolaeth yn debygol o’u trafod:

  • cyflwr presennol seilwaith rheilffyrdd Cymru;

  • pa mor effeithiol ac eglur yw’r dull o rannu cyfrifoldebau am seilwaith rheilffyrdd rhwng llywodraethau’r DU a Chymru;

  • goblygiadau’r model rhyddfreinio yn dod i ben ar gyfer gweithredwyr; ; a

  • lefelau buddsoddiad ers preifateiddio a sut y dyrennir cyllid ar gyfer prosiectau yn ymwneud â rheilffyrdd.

Tystion

Dydd Iau 21 Ionawr 2021

Am 2.30pm:

  • Yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws Trafnidiaeth, Prifysgol De Cymru;

  • Yr Athro Mark Barry, Athro Ymarfer a Chysylltedd, Prifysgol Caerdydd;

  • Julian Glover, cyn gynghorydd arbennig yr Adran Drafnidiaeth.

Gwybodaeth bellach

Delwedd: © M J Richardson (cc-by-sa/2.0)