Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad dilynol i archwilio Carchardai yng Nghymru
18 August 2023
Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad dilynol newydd i'w waith ar Garchardai yng Nghymru yn 2019.
Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad dilynol newydd i'w waith ar Garchardai yng Nghymru yn 2019.
O bynciau fel amodau byw i orlenwi, mae pryderon cynyddol wedi bod nad yw'r ystad carchardai ledled y DU yn addas i'r diben. Mae pryderon wedi eu codi am ddiogelwch mewn carchardai ledled Cymru a Lloegr, ac er bod nifer y marwolaethau hunan-achosedig a gofnodwyd yng ngharchardai Lloegr wedi gostwng 12% yn 2019, cynyddodd y nifer yng Nghymru. Hefyd, rhwng 2018 a 2020, cynyddodd nifer yr achosion o ganfod cyffuriau 65% yng Nghymru a Lloegr.
Ym Mhapur Gwyn Strategaeth Carchardai Llywodraeth y DU, dywedodd gweinidogion y bydd yn "darparu'r rhaglen adeiladu carchardai fwyaf ers dros 100 mlynedd". Mae'r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i osod dyfeisiau sganio mewn carchardai i leihau nifer yr arfau a'r cyffuriau sy'n dod i mewn i'r ystad.
Dim ond data cyfyngedig iawn sydd wedi’i gyhoeddi ynghylch y sefyllfa benodol yng ngharchardai Cymru, ac mae ymchwiliad y Pwyllgor yn ceisio taflu goleuni ar y gwir ddarlun o ran yr heriau sy'n wynebu carchardai yng Nghymru, a beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau hynny.
Bydd yn edrych yn benodol ar:
- cyflwr yr ystad carchardai (megis gorlenwi, mewnforio cyffuriau, a thrais)
- Materion staffio;
- Rheoli troseddwyr; a
- Y ffordd y mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn cydgysylltu ac yn cydweithredu mewn meysydd fel iechyd carcharorion, addysg, tai a chamddefnyddio sylweddau.
Sylw'r Cadeirydd
Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb:
"Mae poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr dros 83,000, ac mae disgwyl i'r ffigur hwn gynyddu. Rhaid cymryd camau i fynd i'r afael â phryderon gorlenwi a diogelwch gyda phoblogaeth bresennol y carchardai cyn i'r heriau waethygu."
"Mae'n anodd cael gwir ddarlun o faterion sy'n wynebu carchardai yng Nghymru oherwydd diffyg data penodol i Gymru. Bydd ein Pwyllgor yn ceisio sicrhau’r eglurder hwn a nodi pa gamau y gellir eu cymryd i wella'r sefyllfa sy'n wynebu troseddwyr a staff carchardai fel ei gilydd."
Cylch gorchwyl
Mae'r Pwyllgor yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 13 Hydref. Dylai'r rhain ganolbwyntio ar, ond heb gael eu cyfyngu i:
- Sut mae'r sefyllfa sy'n wynebu carcharorion a staff carchardai yng Nghymru wedi newid ers 2019, sef y tro diwethaf i’n Pwyllgor rhagflaenol adrodd ar y mater?
- Beth yw goblygiadau Papur Gwyn y Strategaeth Carchardai i Gymru?
- Sut mae diffyg data am Gymru yn unig yn effeithio ar ddealltwriaeth o ddarpariaethau carchardai yng Nghymru?
- A yw ystad carchardai Cymru yn addas i'r diben o ran amodau byw, gorlenwi a diogelwch mewn carchardai?
- A yw ystad carchardai Cymru yn addas i'r diben o ran darparu cyfleusterau addysg ac adsefydlu i garcharorion Cymru, a chyfleusterau iaith Gymraeg?
- Pa mor ddifrifol yw’r broblem o gontraband fel arfau a chyffuriau yng ngharchardai Cymru a sut all Llywodraeth y DU ei leihau?
- A oes digon o gydweithio a chydlynu rhwng cyrff sydd heb eu datganoli a chyrff datganoledig i gefnogi carcharorion Cymru?
Gwybodaeth Bellach
Image credit: PA