Skip to main content

Y Pwyllgor Materion Cymreig i glywed gan bobl ifanc mewn ymchwiliad ar amddiffyn

1 February 2024

Bydd dau berson ifanc - y naill yn astudio seiberddiogelwch, a'r llall yn gyn-beiriannydd prentis - yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig i rannu eu profiadau wrth i Aelodau Seneddol ystyried y biblinell sgiliau ar gyfer y sector amddiffyn yng Nghymru.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, byddant yn trafod eu profiadau eu hunain o astudio a gweithio mewn meysydd sy'n cefnogi'r sector amddiffyn yng Nghymru. Byddant hefyd yn rhannu eu barn am y cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y meysydd o’u dewis, a sut i gynyddu nifer y bobl ifanc fedrus sy'n astudio pynciau STEM.

Yna bydd yr ail banel, sy'n cynnwys Cyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg OpTIC a Phennaeth Ymchwil AMRC Cymru, yn trafod y dirwedd ar gyfer arloesi sy'n gysylltiedig ag amddiffyn yng Nghymru, ac yn enwedig pontio'r bwlch rhwng diwydiant a phrifysgolion, a phwysigrwydd galluoedd gweithgynhyrchu ehangach yng Nghymru.

Tystion

Dydd Mercher 7 Chwefror, Ystafell Bwyllgor 16

O 10.00:

  • Emma Morgan, Myfyriwr, Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Victoria Searle, Peiriannydd Diwydiannol, Airbus

O 10.40:

  • Yr Athro Caroline Gray OBE, Cyfarwyddwr, Canolfan Dechnoleg OpTIC
  • Bobby Manesh, Pennaeth Ymchwil, AMRC Cymru

Further information

Image: MoD