Skip to main content

Dŵr Cymru i ymddangos gerbron ASau ochr yn ochr â rheoleiddwyr i egluro gollyngiadau carthion anghyfreithlon dros nifer o flynyddoedd

20 November 2023

Bydd Dŵr Cymru - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Welsh Water - yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig i drafod gollyngiadau dŵr gwastraff heb ei drin anghyfreithlon mewn dwsinau o weithfeydd carthffosiaeth a materion eraill.

Mewn sesiwn tri phanel, bydd yr ASau hefyd yn clywed gan yr academydd a’r ymgyrchydd Peter Hammond, y rheoleiddwyr Ofwat a Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn clywed gan Brif Weithredwr, Prif Swyddog Ariannol a Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru.

Ymhlith materion eraill, bydd gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn clywed pa gamau y mae Dŵr Cymru bellach yn eu cymryd i atal gollyngiadau carthion pellach, a yw'r system hunan-adrodd yn gweithio'n briodol a pha bwerau sydd gan reoleiddwyr i gosbi digwyddiadau llygredd dŵr.

Dyma'r drydedd sesiwn dystiolaeth y mae'r Pwyllgor yn ei chynnal mewn perthynas â'i waith ar ansawdd dŵr yng Nghymru. Ym mis Ebrill, yn dilyn y gwrandawiad cychwynnol, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor, Stephen Crabb, at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn pwysleisio'r brys i ddisodli hen system garthffosiaeth gyfun Cymru er mwyn osgoi rhyddhau carthion pellach. 

Tystion 

O 10.00:

  • Peter Hammond BA MSc PhD MSc, (wedi ymddeol) Athro Bioleg Gyfrifiadurol, Coleg Prifysgol Llundain (UCL), sydd bellach yn ymgyrchydd yn Windrush Against Sewage Pollution (WASP)
  • Gail Davies-Walsh, Prif Weithredwr, Afonydd Cymru
  • Yr Athro Davey Jones, Cadeirydd Gwyddor Pridd a’r Amgylchedd, Prifysgol Bangor

O 10.30:

  • David Black, Prif Weithredwr Ofwat
  • Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

O 11.00:

  • Peter Perry, Prif Weithredwr, Dŵr Cymru
  • Mike Davis, Prif Swyddog Ariannol, Dŵr Cymru
  • Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff, Dŵr Cymru

Further information

Image: Adobestock