Sylw: Cynllun Diogelwch Ynni: Ynni niwclear a gwynt arnofiol alltraeth (FLOW)
30 March 2023
Wrth groesawu cyhoeddiadau'r Llywodraeth am ynni niwclear ac ynni gwynt arnofiol alltraeth (FLOW), dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:
“Rwy'n croesawu cyhoeddiadau Llywodraeth y DU heddiw am ynni niwclear ac ynni gwynt arnofiol alltraeth: sy'n cynrychioli camau i wella'r broses o gynhyrchu ynni domestig.
“Ar gefn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar borthladdoedd rhydd, mae'n wych bod y Llywodraeth bellach yn lansio cynllun ariannu i annog buddsoddiad mewn isadeiledd i gefnogi cynlluniau ynni gwynt arnofiol alltraeth. Gallai hyn sbarduno ymdrechion cryf i agor y Môr Celtaidd i'r chwyldro ynni gwyrdd, gan gynnig cyfleoedd economaidd enfawr i gymunedau Cymru. Mae'n hanfodol bod porthladdoedd Cymru yn cael cyfran deg o'r pecyn £160 miliwn.”
“Ers peth amser, mae'r sector niwclear wedi galw am fwy o eglurder ynghylch uchelgeisiau'r Llywodraeth, ac mae'r cyhoeddiadau polisi heddiw ar ynni niwclear yn cyd-fynd â'r hyn y buom ni'n galw amdano. Dylai lansiad llawn Great British Nuclear fynd rhywfaint o'r ffordd i dawelu meddyliau'r sector a'u hysgogi i fuddsoddi. Rwy'n dymuno'r gorau i'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr dros dro yn eu hymdrechion, ac yn edrych ymlaen at weld manylion y gystadleuaeth dechnoleg am adweithydd modiwlar bach pan gaiff ei lansio. Mae’n gwbl deg bod y Llywodraeth yn ceisio sicrhau atebion sy’n cystadlu gyda chystadleuwyr byd-eang fel nad ydym ar ei hôl hi o ran sefydlu ac elwa ar fanteision datblygiadau niwclear gigawat, yn ogystal ag adweithyddion modiwlar bach."
Further information
Image: Parliamentary copyright