Sylw: Cymraeg Grant caniatâd ar gyfer prosiect arfaeth arfaeth arforol Erebus
13 March 2023
Sylw: Cymraeg Grant caniatâd ar gyfer prosiect arfaeth arfaeth arforol Erebus
- Inquiry: Floating Offshore Wind in Wales
- Darllenwch yr adroddiad PDF [326KB]
- Darllenwch yr adroddiad HTML
- Welsh Affairs Committee
Sylw'r Cadeirydd
Wrth groesawu'r cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd ar gyfer prosiect gwynt alltraeth arnofiol Erebus, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:
“Mae'n edrych yn fwy tebygol nag erioed y gallai Cymru fod ar flaen y gad o ran gwynt alltraeth arnofiol.
“Mae'n newyddion hynod galonogol y gallai Sir Benfro fod yn gartref i fferm wynt alltraeth arnofiol gyntaf Cymru. Fel y soniwyd yr wythnos diwethaf yn adroddiad ein Pwyllgor ar wynt alltraeth arnofiol, mae'r potensial yn enfawr os byddwn yn llwyddo i harneisio'r potensial ynni ymhellach allan ar y môr. Gallai fod yn drawsnewidiol i'r economi a'r cadwyni cyflenwi lleol, gan gefnogi llawer o swyddi a bywoliaethau mewn ardal wledig.
“Gallai gwynt alltraeth arnofiol fod y cyfle buddsoddi mwyaf yng Nghymru ers degawdau. Er mwyn i hyn gael ei wireddu, rhaid i ni sicrhau bod cadwyni cyflenwi lleol yn elwa ar yr hwb mewn busnes, yn hytrach na bod y gweithgynhyrchu yn cael ei gynnig i gystadleuwyr rhyngwladol fel y gwelsom ni gyda llawer o ffermydd gwynt gwaelod sefydlog ar y môr.
“Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi'r prosiect hwn fel y gall fynd rhagddo a phweru degau ar filoedd o gartrefi.”
Rhagor o wybodaeth
Image: CC0 Copyright