Gallai gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd gynnig cyfle buddsoddi aruthrol yma yng Nghymru, ond mae angen sicrwydd am brosiectau gan lywodraeth y DU
8 March 2023
Gallai gwynt alltraeth arnofiol gynrychioli'r cyfle buddsoddi unigol mwyaf yng Nghymru ers degawdau, meddai'r Pwyllgor Materion Cymreig heddiw, ond mae angen eglurder ar frys gan Lywodraeth y DU er mwyn cyflymu'r ymdrechion.
- Read the report summary
- Read the full report
- Find all publications related to this inquiry, including oral and written evidence
Mae Ystad y Goron wedi dweud y gallai cynllun ynni gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd gynhyrchu 20GW o ynni trwy gael ei leoli ymhellach ar y môr. Er mwyn elwa i'r eithaf ar y cynllun hwn, mae'r Pwyllgor yn dadlau y gallai ffermydd gwynt arnofiol yn y môr greu miloedd o swyddi hirdymor o safon uchel a rhoi Cymru ar flaen y gad. Fodd bynnag, dywedodd datblygwyr a gweithredwyr porthladdoedd wrth y Pwyllgor bod diffyg targedau hirdymor a diffyg prosiectau clir i ddatgloi buddsoddiad yn llesteirio cynnydd. Rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn ar frys, ac mae'n rhaid cymryd camau i sicrhau bod cyrff cydsynio yn cynnwys y staff a'r adnoddau digonol i ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig yn y galw.
Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad a oedd yn ystyried gallu'r grid, gan ddadlau bod cyfyngiadau rhwydwaith yn dal prosiectau ynni gwyrdd yn ôl yng Nghymru. Byddai gosod targedau hirdymor a map cyflawni hefyd o fudd i ESO y Grid Cenedlaethol wrth gynllunio i uwchraddio'r rhwydwaith.
Rhaid i gadwyni cyflenwi lleol yng Nghymru elwa ar weithgynhyrchu a gosod cynlluniau ynni gwynt alltraeth arnofiol, ac mae'n rhaid rhoi'r flaenoriaeth iddyn nhw dros gystadleuwyr rhyngwladol. Mae'r Pwyllgor yn dadlau na wnaeth cadwyni cyflenwi lleol elwa cymaint ar gyflwyno cynlluniau ynni gwynt arnofiol arferol gwaelod sefydlog, gyda gwaith ffabrigo a gosod mawr yn cael ei gynnal dramor. Mae'r Pwyllgor yn benderfynol o beidio ag ailadrodd hyn, gan fod y potensial ar gyfer cyfoeth a chreu swyddi yng Nghymru yn gyfle’n rhy fawr i'w golli.
Er bod Ystad y Goron yn gofyn i ddatblygwyr ddarparu cynlluniau buddsoddi yn y gadwyn gyflenwi fel rhan o'u cais am brydles, mae angen dull o ddwyn datblygwyr i gyfrif ar gyflawni'r cynlluniau hyn. Yn yr un modd, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio arwerthiannau Contractau er Gwahaniaeth yn y dyfodol ar gyfer ynni gwynt alltraeth arnofiol gynnwys gofynion cynnwys lleol gorfodol.
Yn y pen draw, mae'r Pwyllgor o'r farn y bydd angen cydlynu llwyddiannus rhwng y DU a Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a diwydiant mewn nifer o feysydd polisi rhyngddibynnol wrth ddarparu ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd. Dim ond wedyn y gall Cymru fanteisio ar botensial anferthol ynni gwynt alltraeth arnofiol i'r genedl.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS:
“Bydd technoleg gwynt alltraeth arnofiol newydd yn agor dyfroedd dwfn y Môr Celtaidd i'r chwyldro ynni gwyrdd. Bydd tyrbinau mwy sydd wedi'u lleoli ymhellach allan ar y môr na thyrbinau traddodiadol yn harneisio'r gwyntoedd cryfach i gynhyrchu mwy o bŵer."
"Bydd gan Gymru rôl allweddol yn helpu'r DU i gyrraedd ei tharged o 5GW o wynt alltraeth arnofiol erbyn 2030. Dywedwyd wrth ein Pwyllgor y gallai gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd ddod â £20 biliwn o fuddsoddiad uniongyrchol i'r farchnad ddomestig. Mae rhai o gwmnïau ynni mwya'r byd eisoes yn llunio cynlluniau buddsoddi yn y Môr Celtaidd.
"Yr her yw sicrhau bod gwynt alltraeth arnofiol yn creu gwerth economaidd hirdymor go iawn i Gymru. Mae porthladdoedd fel Aberdaugleddau a Phort Talbot mewn lleoliad delfrydol i fod yn ganolfannau gweithgynhyrchu a gweithrediadau, a gallai cwmnïau fel Tata Steel ffurfio rhan o gadwyn gyflenwi gref yng Nghymru. Bydd angen strategaeth glir gan y Llywodraeth ac Ystad y Goron i flaenoriaethu cynnwys domestig a sicrhau bod datblygwyr yn cyflawni eu hymrwymiadau.
"Mae gwynt alltraeth arnofiol yn gyfle diwydiannol unwaith-mewn-cenhedlaeth i Gymru - allwn ni ddim fforddio cael ein gadael ar ôl.”
Further information
Image: CC0