Skip to main content

Gweinidog Llywodraeth Cymru i roi tystiolaeth am botensial ynni gwynt arnofiol ar y môr yng Nghymru

12 January 2023

Sesiwn Dystiolaeth

Fe fydd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig wrth i Aelodau Seneddol orffen casglu tystiolaeth ar ynni gwynt arnofiol ar y môr (FLOW) yng Nghymru. Dyma’r sesiwn sydd wedi’i haildrefnu ac a oedd i’w chynnal yn wreiddiol ddydd Iau 8 Rhagfyr.

 

Mae'r Môr Celtaidd wedi'i nodi fel cyfle datblygu mawr ar gyfer FLOW, a gallai gyfrannu at darged Llywodraeth y DU i gynhyrchu 5GW o FLOW erbyn 2030, fel y nodir yn y British Energy Security Strategy. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod potensial ynni gwynt arnofiol ar y môr oddi ar arfordir Cymru hefyd a'r cyfleoedd i'r economi a chymunedau yn sgil buddsoddiad newydd.

 

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth hon, bydd Aelodau Seneddol yn asesu sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiadau FLOW, gan gynnwys ei hymgysylltiad ag Ystad y Goron i fwrw ymlaen â phrydlesu gwely'r môr. Mae'r sesiwn dystiolaeth yn debygol hefyd o archwilio cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cadwyni cyflenwi lleol yn elwa ar FLOW, ei chefnogaeth i borthladdoedd Cymru a'r hyn sy'n cael ei wneud i baratoi'r grid ar gyfer targedau gigawat yn y dyfodol.

Tyst

O 13.30:

  • Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru
  • Ed Sherriff, Dirprwy Gyfarwyddwr Ynni, Llywodraeth Cymru

Image: Parliamentary copyright