Skip to main content

Gweinidog Llywodraeth Cymru i roi tystiolaeth am botensial ynni gwynt arnofiol ar y môr yng Nghymru - Mae'r sesiwn dystiolaeth hon wedi'i gohirio

5 December 2022

Mae’r sesiwn isod wedi’i gohirio ac ni fydd yn cael ei chynnal yfory, ddydd Iau 8 Rhagfyr. Bydd y dyddiad newydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Fe fydd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig wrth i Aelodau Seneddol orffen casglu tystiolaeth ar ynni gwynt arnofiol ar y môr (FLOW) yng Nghymru.

Mae'r Môr Celtaidd wedi'i nodi fel cyfle datblygu mawr ar gyfer FLOW, a gallai gyfrannu at darged Llywodraeth y DU i gynhyrchu 5GW o FLOW erbyn 2030, fel y nodir yn y British Energy Security Strategy. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod potensial ynni gwynt arnofiol ar y môr oddi ar arfordir Cymru hefyd a'r cyfleoedd i'r economi a chymunedau yn sgil buddsoddiad newydd.

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth hon, bydd Aelodau Seneddol yn asesu sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiadau FLOW, gan gynnwys ei hymgysylltiad ag Ystad y Goron i fwrw ymlaen â phrydlesu gwely'r môr. Mae'r sesiwn dystiolaeth yn debygol hefyd o archwilio cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cadwyni cyflenwi lleol yn elwa ar FLOW, ei chefnogaeth i borthladdoedd Cymru a'r hyn sy'n cael ei wneud i baratoi'r grid ar gyfer targedau gigawat yn y dyfodol.   

Tyst

 O 10.00:

  • Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru

Rhagor o wybodaeth

Image: Gov.Wales