Skip to main content

Pa mor fuan y gall gwynt alltraeth arnofiol gael ei gyflwyno fesul cam yn y Môr Celtaidd?

24 October 2022

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn dystiolaeth yn archwilio gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd, wrth i’r DU geisio harneisio ei botensial ynni adnewyddadwy.

Gyda thri phanel o arbenigwyr, bydd y Pwyllgor yn asesu manteision posibl gwynt alltraeth arnofiol i Gymru ac yn gwerthuso beth sy’n cael ei wneud i gyflymu ei gyflwyniad. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar rai o heriau cyflwyno gwynt alltraeth arnofiol yn raddol yn y rhanbarth, megis gallu’r grid a chadwyni cyflenwi, ynghyd â rôl y seilwaith porthladdoedd a sut y gallai cynnig porthladd rhydd Port Talbot a Phorthladd Aberdaugleddau gyfrannu at y sector.

Mae’r sesiwn dystiolaeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar gan RenewableUK sy’n nodi bod llif byd-eang prosiectau gwynt alltraeth arnofiol wedi dyblu bron iawn yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r adroddiad yn nodi bod y DU yn parhau i fod yn geffyl blaen yn y farchnad, diolch yn rhannol i don o brosiectau sydd wedi’u cynnig ar gyfer y Môr Celtaidd.

Tystion o 9:30am

  • Tom Glover, Cadeirydd UK Country, RWE
  • Dan McGrail, Prif Swyddog Gweithredol, RenewableUK
  • Mike Scott, Rheolwr Gyfarwyddwr Prosiect, Blue Gem Wind

Tystion o 10:10am

  • Henrik Pedersen, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr y Bwrdd, Associated British Ports
  • Tom Sawyer, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol, Porthladd Aberdaugleddau

Tystion o 10:50am

  • Gus Jaspert, Rheolwr Gyfarwyddwr, Morol, Ystad y Goron
  • Tim Stiven, Uwch Reolwr Datblygu, Morol, Ystad y Goron
  • Tim Pick, Hyrwyddwr Gwynt Alltraeth a Chyd-gadeirydd, Tasglu Cyflymu Gwynt Alltraeth

Further information 

Image: UK Parliament/Tyler Allicock