Y Pwyllgor Materion Cymreig yn archwilio rhaglenni diwygio ac adsefydlu ar gyfer troseddwyr ifanc a charcharorion â dedfrydau byr
23 November 2018
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld â ChEM Caerdydd ddydd Llun 26 Tachwedd fel rhan o'r ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai yng Nghymru. Yna, ddydd Mawrth 27 Tachwedd, bydd y Pwyllgor yn trafod rhaglenni adsefydlu ar gyfer troseddwyr ifanc a sut i atal problemau sy'n gysylltiedig â gangiau gyda thystion o Ymddiriedolaeth St Giles, gan gynnwys Junior Smart.
Fel rhan o'r ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai yng Nghymru, ymrwymodd y Pwyllgor i ymweld â phob carchar yng Nghymru ac felly bydd y Pwyllgor yn ymweld â ChEM Caerdydd ddydd Llun 26 Tachwedd. Mae'n sefydliad sy'n darparu gwasanaeth yn bennaf ar gyfer carcharorion â dedfrydau tymor byr o hyd at 18 mis, carcharorion sy'n cael eu cadw yn y ddalfa a'r rheiny sy'n disgwyl am eu dedfryd.
Pwrpas y sesiwn
Y diwrnod canlynol, bydd y Pwyllgor yn ystyried materion yn ymwneud â diwygio ac adsefydlu mewn carchardai yng Nghymru. Byddant hefyd yn clywed rhagor am waith Ymddiriedolaeth St Giles gyda charcharorion a phobl ifanc, gan gynnwys mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â gangiau. Un o'r tystion yw Junior Smart, cyn-garcharor a enwyd yn un o'r 1000 person mwyaf dylanwadol o Lundain gan yr Evening Standard am ei ymdrechion yn atal pobl ifanc rhag ymwneud â gangiau a throseddu.
Tystion
Mawrth 27 Tachwedd 2018, Ystafell Grimond, Tŷ'r Cyffredin
O 2.15yp
- Junior Smart, Rheolwr Datblygu Busnes, Ymddiriedolaeth St Giles
- Evan Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol – Tîm Uwch-Reoli, Ymddiriedolaeth St Giles
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto