Skip to main content

Y Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld â ChEM Styal a Chanolfan Merched Gogledd Cymru

12 December 2018

Ddydd Iau 13 Rhagfyr bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn archwilio sut i gynorthwyo troseddwyr benywaidd o Gymru i adsefydlu ac osgoi aildroseddu drwy ymweld â charchar i ferched yn Sir Gaer a chanolfan gymunedol i ferched yng ngogledd Cymru.

CEM Styal

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn parhau â'r ymchwiliad i Ddarpariaeth Carchardai yng Nghymru gydag ymweliad â ChEM Styal, carchar yn Sir Gaer ar gyfer oedolion benywaidd a rhai troseddwyr ifanc. Nid oes carchar ar gyfer merched yng Nghymru. Styal yw'r carchar agosaf i nifer o droseddwyr benywaidd, ac mae'n derbyn nifer helaeth o Ogledd Cymru.

Canolfan Merched Gogledd Cymru, Rhyl

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ymweld â chanolfan ar gyfer merched yng ngogledd Cymru. Mae'r ganolfan yn y Rhyl yn ceisio meithrin a hybu datblygiad cymdeithasol ac economaidd merched lleol. Mae'n darparu gwasanaeth ‘Gwybodaeth a Chefnogaeth' i ferched bregus sy'n wynebu problemau cymhleth fel trais domestig, digartrefedd a thlodi.

Manylion yr ymweliad

Dyddiad: dydd Iau 13 Rhagfyr 2018
Lleoliadau: CEM Styal, Sir Gaer a Chanolfan Merched Gogledd Cymru, Rhyl

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Ministry of Justice