Skip to main content

ASau yn rhybuddio mai'r bobl dlotaf a allai ddioddef fwyaf yn sgil economi fregus Cymru

21 July 2020

Mae grŵp trawsbleidiol o ASau wedi rhybuddio bod perygl y gallai sgil-effeithiau gwaethaf Covid-19 effeithio'r bobl dlotaf yng Nghymru gan fod economi'r genedl eisoes yn fregus wrth wynebu unrhyw ergydion economaidd.

Effaith ar bobl a busnesau yng Nghymru

Mae'r adroddiad interim ar Economi Cymru a Covid-19 gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn disgrifio effaith y feirws hyd yn hyn ar fusnesau a phobl ledled Cymru. Mae hefyd yn sôn am y gefnogaeth gan Lywodraethau'r DU a Chymru, ac yn canolbwyntio ar rai o'r sectorau sydd yn wynebu risg fwyfwy yn ystod yr argyfwng.

Cyn yr argyfwng, daeth Cymru yn olaf ond un mewn rhestr o 12 cenedl a rhanbarth yn y DU o ran Incwm Gwario Gros Aelwydydd, â chyfradd tlodi o 23%. Hefyd, mae gan Gymru'r gyfraddau cyflogaeth uchaf ond un yn y sectorau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan yr heriau sydd wedi codi yn sgil gwrthfesurau'r feirws, sef manwerthu, bwyd a diod, a'r celfyddydau a hamdden.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn rhybuddio bod Covid-19 wedi creu amodau arbennig o heriol ar gyfer sectorau allweddol economi Cymru. Ar gyfer rhai o gyflogwyr pwysicaf Cymru, mae effeithiau tymor byr y pandemig wedi cyd-daro â'r heriau mwy hir-dymor maent yn eu hwynebu i ailstrwythuro er mwyn darparu twf sy'n gynaladwy.

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu dychwelyd at yr adroddiad yn yr hydref er mwyn gwneud argymhellion ar sut i leihau peryglon y pandemig a sicrhau adferiad economaidd llwyddiannus a chynaladwy i Gymru.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:

Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn ergyd drom i deuluoedd a busnesau ledled Cymru, gyda'r baich mwyaf ar gymunedau oedd eisoes mewn sefyllfa fregus cyn yr argyfwng. Mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn ymateb i'r argyfwng â chefnogaeth ddigynsail.”
 
“Mae'r data yn ein hadroddiad interim yn dangos maint yr her economaidd sy'n wynebu'r genedl ar hyn o bryd. Mae diwydiannau allweddol yn wynebu cyfnod heriol ac mae'n bosib y gallai diweithdra godi i raddau na welwyd yng Nghymru ers degawdau. Mae angen adferiad ar Gymru sy'n gynaliadwy ac sy'n arwain at economi gryfach a mwy cadarn.”

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Pixabay