Skip to main content

Y Llywodraeth yn ymrwymo i wella cyfathrebu ynghylch y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol a Chredyd Pensiwn yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Materion Cymreig

6 July 2022

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar y system budd-daliadau yng Nghymru, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau bod gwaith ar droed i sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o’u gallu i hawlio Credyd Pensiwn. Mae’r Llywodraeth hefyd yn datgan y gwnaethpwyd gwaith i ddeall yn well y buddion a’r effeithiau o ran treth ar gyfer y rhai sy’n rhan o Gynllun Peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Serch hynny, mae’r ymateb wedi gadael nifer o gwestiynau heb eu hateb, a bydd y Pwyllgor yn gofyn am eglurder yn eu cylch.

Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad oedd yn sôn am ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd yn ehangach o fudd-daliadau allweddol, yn arbennig Credyd Pensiwn. O ganlyniad, argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd a chydag awdurdodau lleol i redeg ymgyrch i annog defnydd. Yn ei hymateb, mae’r Llywodraeth wedi egluro’r gwahanol gamau yn ei hymgyrch i annog defnydd, gan gynnwys o gwmpas y cyfryngau cymdeithasol ac mewn papurau newydd rhanbarthol a chenedlaethol.

Hefyd, dangosodd dystiolaeth i’r Pwyllgor nad oedd y rhai hynny sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o sut y gallai effeithio ar y budd-daliadau y maent yn eu derbyn a’r treth y maent yn ei dalu. Argymhellodd y Pwyllgor, felly, y dylid cyflawni asesiad effaith ar y budd-daliadau a dderbynnir a’r treth a delir gan y cyfranogwr cyffredin posibl. Cadarnhaodd y Llywodraeth bod gwybodaeth wedi ei throsglwyddo ynghylch sut y gallai Credyd Cynhwysol gael ei effeithio gan y cynllun peilot, ac mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi rhoi cyngor ar yr ymdriniaeth â threth.

Ymysg yr ymatebion i argymhellion eraill y Pwyllgor, gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad i ailgyflwyno’r ychwanegiad o £20 i Gredyd Cynhwysol, adolygu lefel Tâl Salwch Statudol a defnyddio rhagolygon tymor agosach i gynyddu budd-daliadau i gyd-fynd â’r cyfradd chwyddiant gwirioneddol.

Mae’r Pwyllgor yn bwriadu gwneud gwaith dilynol gyda Llywodraeth y DU ar nifer o faterion. Bydd hyn yn cynnwys cysylltiad yr Adran Gwaith a Phensiynau â chynllun peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru a gofyn am eglurder pellach ar safbwynt y Llywodraeth ar ddatganoli gweinyddu budd-daliadau.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:

“Gyda lefelau chwyddiant yn cynyddu ac yn ennill y blaen ar incwm, mae pobl yn gwylio eu hincwm a’u gwariant yn fwy nag erioed. Mae gwybod yn union pa fudd-daliadau y gellir eu hawlio, a gwybod sut mae cymryd rhan mewn cynlluniau peilot ar gyfer budd-daliadau yn medru effeithio ar y budd-daliadau hynny, yn ogystal â threth, yn hanfodol. Rwy’n falch bod y Llywodraeth wedi egluro heddiw sut y bydd yn gwella ei chyfathrebu ynghylch Credyd Pensiwn fel bod mwy o bobl yn ymwybodol ohono. Hefyd, croesewir y ffaith i Lywodraeth Cymru egluro’r effeithiau posib ar daliadau Credyd Cynhwysol a threth sydd yn gysylltiedig â chynllun peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n croesawu pecyn cymorth y Llywodraeth o £37 biliwn i helpu gyda’r argyfwng costau byw ac yn erfyn ar weinidogion i barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i leddfu’r ergyd i filiynau o bobl ar draws y wlad wrth i’r argyfwng edrych yn debyg o ddwysáu dros y misoedd nesaf.”

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’w adroddiad heddiw.

Further information

Image: Tyler Allicock