Cefnogwyd Cymru gan y system budd-daliadau drwy’r pandemig, ond mae angen gweithredu er mwyn cefnogi pobl gyda chostau byw sydd ar gynnydd
17 March 2022
Yn sgil y cynnydd mewn costau byw, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw heddiw am gefnogaeth bellach i bobl, wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad, y System budd-daliadau yng Nghymru.
Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth bod yr ychwanegiad wythnosol o £20 i Gredyd Cynhwysol wedi cefnogi hawlwyr drwy gydol y pandemig, ond clywodd bryderon hefyd ynghylch rhoi terfyn ar yr ychwanegiad dros dro. Yn sgil y cynnydd mewn costau byw, mae’r Pwyllgor wedi galw am i’r ychwanegiad o £20 i daliadau Credyd Cynhwysol gael ei ailgyflwyno. Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu lefel tâl salwch statudol.
Gyda chostau byw yn cynyddu, mae angen i fwy o bobl nag erioed wybod pa fudd-daliadau y maent yn gallu eu hawlio. Clywodd y Pwyllgor bod diffyg ymwybyddiaeth ynghylch Credyd Pensiwn. Felly, mae’r Pwyllgor wedi galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i hybu defnydd. Ar raddfa ehangach, mae angen i’r ddwy lywodraeth weithio i wella cyfeirio at fudd-daliadau, grantiau a lwfansau.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi proffil economaidd-gymdeithasol unigryw Cymru a’r goblygiadau ar gyfer y system budd-daliadau. Er enghraifft, mae gan Gymru gyfradd uwch o bobl mewn diweithdra tymor hir a’r cyfraddau tlodi uchaf ymysg holl genhedloedd y DU. Hefyd, mae nodweddion demograffaidd, megis cyfradd uwch o anabledd a phoblogaeth hŷn, yn cyflwyno mwy o heriau i Gymru. Mae cysylltedd hefyd yn anodd i lawer o drigolion Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle y gall hawlwyr ei chael hi’n anodd i fynychu apwyntiadau neu waith. Daw’r Pwyllgor i’r casgliad bod angen i Lywodraeth y DU ystyried cyd-destun Cymru yn iawn pan yn penderfynu ar bolisi lles.
Gellir mynd ati i wneud rhan helaeth o hyn trwy weithio agos rhwng llywodraethau’r DU a Chymru. Mae’r Pwyllgor, felly, wedi argymell sefydlu Bwrdd Rhyngweinidogol rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru, fydd yn medru ystyried anghenion penodol Cymru ym maes polisi lles. Gall hefyd fod yn fforwm lle—cyn cyhoeddi polisi lles—y gall Llywodraeth y DU ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar bolisïau sydd â chysylltiad agos â meysydd lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, megis tai a sgiliau.
Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd ar gynllun peilot incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru a galwodd am i’r Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd ar asesiad effaith ar y budd-daliadau a dderbyniwyd a faint o drethi a dalwyd gan y cyfranogwr cyffredin posibl.
Ben Lake MP comments
Dywedodd Ben Lake AS, a gadeiriodd y cyfarfod i ystyried yr adroddiad yn absenoldeb y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:
“Mae gan Gymru nodweddion unigryw a rhaid ystyried hyn wrth lunio polisi lles: o’i hystadegau diweithdra a thlodi i’w chysylltedd heriol i gymunedau gwledig. Cefnogodd lywodraethau’r DU a Chymru lawer o bobl drwy pandemig covid-19, ac rydym yn talu teyrnged i waith caled staff ac arweinyddiaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Serch hynny, gallai’r cynnydd mewn costau byw helaethu anawsterau a gafodd hawlwyr gyda’r system budd-daliadau cyn y pandemig, ac felly mae’n hanfodol cymryd camau i’w cefnogi i gael dau ben llinyn ynghyd.”
Argymhellion
Dyma rhai o argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig:
- Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau redeg ymgynghoriad gyda chynghorwyr cefnogaeth budd-daliadau ar fodel caniatâd penodol Credyd Cynhwysol ac archwilio a oes angen unrhyw newidiadau.
- Rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i gynyddu lefel tâl salwch statudol. Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau ysgrifennu at y Pwyllgor â diweddariad ar unrhyw gynnydd o fewn 6 mis.
- Dylid ailgyflwyno ychwanegiad o £20 i Gredyd Cynhwysol yng Nghyllideb Mawrth 2022 a’i ehangu i fudd-daliadau etifeddol.
- Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio rhagolygon tymor agosach i gynyddu budd-daliadau i gydfynd â’r cyfradd chwyddiant gwirioneddol a fydd yn berthnasol yn Ebrill 2022. Yn y tymor hwy, dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau amlinellu beth mae’r system budd-daliadau yn ceisio cyflawni a sut y gellir mesur hyn, yn enwedig mewn perthynas â rhoi terfyn ar dlodi.
- Dylai llywodraethau’r DU a Chymru sefydlu Bwrdd Rhyngweinidogol ar Nawdd Cymdeithasol rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru.
- Dylai gweinidogion Llywodraeth y DU ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn gweithredu polisïau nawdd cymdeithasol newydd, yn enwedig yn y meysydd hynny â chanddynt gysylltiadau agos â meysydd lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli, megis tai a sgiliau.
- Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru weithio ynghyd ag awdurdodau lleol i redeg ymgyrch i annog defnydd o Gredyd Pensiwn. Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd i wella cyfeirio at fudd-daliadau, grantiau a lwfansau trwy gynhyrchu arweinlyfr ar gyfer Anogwyr Gwaith.
- Dylai Llywodraeth y DU dderbyn argymhellion y Comisiynydd Mewn Gwaith: i ddarparu cynnig mewn gwaith credadwy ar gyfer pob hawlydd budd-daliadau sy’n gweithio; ac adolygu sut y gall y cyfradd tapr a lwfansau gwaith gefnogi cynnydd mewn gwaith yn y modd orau.
- Er budd y bobl ifanc sy’n ystyried cymryd rhan yng nghynllun peilot Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru, dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd i gynnal asesiad effaith ar y budd-daliadau a dderbyniwyd a faint o drethi a dalwyd gan y cyfranogwr cyffredin posibl.
- Dylai’r Bwrdd Ymgynghorol Rhyngweinidogol ar Nawdd Cymdeithasol rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru gynnal asesiad o rinweddau posib datganoli gweinyddu’r un budd-daliadau i Gymru ag y datganolwyd i’r Alban.
Further information
Image: Tyler Allicock/UK Parliament