Skip to main content

Y System Budd-daliadau yng Nghymru: ASau yn canolbwyntio ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol

1 November 2021

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn bwriadu canolbwyntio ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol (ISC) wrth i'w ymchwiliad i'r System Budd-daliadau yng Nghymru barhau.

 
Yn y drydedd sesiwn dystiolaeth ar y pwnc, bydd ASau yn edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn ISC ac yn ystyried goblygiadau cynllun peilot Llywodraeth Cymru sy’n targedu pobl ifanc sy’n gadael gofal.

Bydd ASau yn derbyn tystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Robert Gordon, Prifysgol Caerfaddon, y Sefydliad Economeg Newydd ac UBI Lab Cymru. Mae’r Pwyllgor yn debygol o edrych ar nid yn unig gynllun peilot Llywodraeth Cymru ond hefyd potensial ISC i leihau lefelau tlodi, y costau posib a’r effeithiau macro-economaidd, sut mae’n cymharu â dulliau eraill o gefnogi pobl â mwy o anghenion economaidd-gymdeithasol, ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd gan gynlluniau prawf dramor.

Tystion am 10:00yb

  • Yr Athro Paul Spicker, Prifysgol Robert Gordon, Aberdeen
  • Dr Malcolm Torry, Cymrawd Gwadd, Sefydliad Ymchwil Polisi, Prifysgol Caerfaddon
  • Anna Coote, Prif Gymrawd, Sefydliad Economeg Newydd
  • Jonathan Williams, cyd-sefydlydd, UBI Lab Cymru

Further information

Image: PA