Skip to main content

Cwnsler Cyffredinol Cymru Jeremy Miles yn rhoi tystiolaeth ar Brexit

16 November 2020

Bydd ASau yn clywed gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, ynghylch goblygiadau posib negodiadau masnach DU-UE i Gymru a Mesur Marchnad Rydd y DU pan fydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Iau.

Tystion

At 09.30

  • Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru

Mae disgwyl i Mr Miles, Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am oruchwylio pontio Brexit ar ran Cymru, wynebu cwestiynau ynghylch:

  • effaith bosib diffyg cytundeb Brexit ar Gymru a pharodrwydd Cymru ar gyfer hynny;
  • ei asesiad o sut y bydd perthnasau masnach yn y dyfodol yn effeithio economi Cymru;
  • ymgysylltu gyda Llywodraeth y DU am gytundebau masnach gyda’r UE a gwledydd eraill a sut y caiff blaenoriaethau Cymru eu cynrychioli mewn negodiadau;
  • y Mesur Marchnad Fewnol; a’r
  • Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Further information

Image: Open Government Licence