Gweithredwyr porthladdoedd yn trafod pa mor barod ydynt ar gyfer trefniadau masnachu DU-UE newydd
28 September 2020
GWYLIWCH YN FYW ar Parliament TV o 09.30, ddydd Iau 1 Hydref 2020 ar Zoom
Bydd panel o weithredwyr porthladdoedd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig ynghylch goblygiadau prosesau a threfniadau tollau newydd i borthladdoedd Cymru wrth wynebu unai cytundeb masnach rydd gyda’r UE neu fasnachu ar delerau WTO.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn debygol o archwilio:
- goblygiadau cytundeb tebyg i un Canada i borthladdoedd Cymru os gellir sicrhau cytundeb o’r fath gyda’r UE;
- effeithiau posib masnachu gyda’r UE ar delerau WTO ar borthladdoedd Cymru, gan gynnwys isadeiledd porthladdoedd a phrosesau tollau ychwanegol; a
- goblygiadau posib cytundeb neu ddiffyg cytundeb gyda’r UE i lif masnach rhwng Cymru ac Iwerddon.
Tystion
Am 09.30
- Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd Prydain, Stena Line
- Spencer Birns, Prif Weithredwr dros dro, Maes Awyr Caerdydd
- Andrew Harston, Cyfarwyddwr Cymru a Phorthladdoedd morol byr, Associated British Ports
- Richard Ballantyne, Prif Weithredwr, British Ports Association
Gwyliwch yn fyw ac ar alw ar Parliament TV.
Further information
Image: PA