Arbenigwyr masnach ac economegwyr yn amlinellu effaith sicrhau cytundeb a dim cytundeb i Gymru
11 September 2020
Bydd panel o academyddion gydag arbenigedd mewn masnach ac economeg yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig am effaith mathau gwahanol o drefniadau masnach yn dilyn Brexit ar Gymru.
Gwyliwch yn fyw ac ar alw ar Parliament TV.
Bydd gofyn i’r panelwyr ddadansoddi effaith cytundeb masnach rydd gyda’r UE a masnach ar delerau WTO ar brif ddiwydiannau Cymru.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn debygol o archwilio;
- goblygiadau i Gymru os ceir cytundeb masnach gyda’r UE sy’n dilyn yr un trywydd â chytundeb Canada;
- effaith bosib masnachu gyda’r UE ar delerau WTO ar fusnesau Cymreig a chadwyni cyflenwi; ac
- effaith cytundebau masnach gyda gwledydd y tu hwnt i Ewrop ar fasnach ac amaethyddiaeth yng Nghymru.
Tystion
Am 09.30:
Yr Athro Patrick Minford, Athro Economeg Gymhwysol, Ysgol Fusnes Caerdydd;
Dr Ludivine Petetin, Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd;
Yr Athro Sangeeta Khorana, Athro Masnach Rhyngwladol, Prifysgol Bournemouth;
Yr Athro Nicholas Perdikis, Athro Economi Busnes Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth.
Further information
Image: Pixabay
Image: