ASau yn ailafael yn ymchwiliad Brexit a masnach yng Nghymru
23 July 2020
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi y bydd yn ailafael yn ei ymchwiliad i oblygiadau negodiadau masnach rhwng Prydain ac Ewrop i Gymru.
Anfonwch eich safbwyntiau atom
Dylid anfon cyfraniadau drwy wefan y Pwyllgor erbyn 30 Hydref 2020.
Cafodd yr ymchwiliad, a lansiwyd yn wreiddiol ddechrau Mawrth, ei roi o'r neilltu am y tro yn sgil y pandemig a phenderfynodd y Pwyllgor yn hytrach archwilio effaith yr argyfwng ar economi Cymru. Gan fod disgwyl i ymchwiliad y Pwyllgor i Covid-19 ddod i ben yn yr hydref, dywedodd y Cadeirydd Stephen Crabb mai ‘dyma'r adeg iawn i ddychwelyd at fater Brexit a'r hyn mae'n ei olygu i fasnach Cymru yn y dyfodol'.
Bydd yr ymchwiliad Brexit a Masnach yn archwilio goblygiadau cytundeb a gynigir gan Lywodraeth y DU neu ddiffyg cytundeb ar fusnesau Cymru a llif masnach Cymru-UE. Gan fod Protocol Gogledd Iwerddon yn gosod Gogledd Iwerddon mewn safle unigryw yn y berthynas fasnach rhwng Prydain ac Ewrop, bydd y Pwyllgor yn asesu ei effaith ar fasnach fewnol y DU a pha adnoddau ychwanegol fydd eu hangen ar borthladdoedd Cymru. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried y cyfleoedd a'r blaenoriaethau i Gymru wrth negodi gydag eraill fel UDA, Awstralia a Seland Newydd.
Sylwadau'r Cadeirydd
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig Y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:
“Mae masnach y DU gydag Ewrop a gweddill y byd yn cael mwy o sylw nag erioed o'r blaen wrth i Brydain negodi cytundebau masnach newydd yn sgil Brexit. Wrth i negodiadau dros gytundeb masnach rydd gydag Ewrop gyrraedd cyfnod tyngedfennol, a thrafodaethau masnach hefyd yn cychwyn gyda UDA, Siapan ac economïau enfawr eraill, mae'n adeg pwysig i ni wrth archwilio sut y caiff Cymru ei heffeithio gan gytundebau masnach yn y dyfodol.
O ystyried pwysigrwydd sectorau fel gweithgynhyrchu ac amaeth i economi Cymru, gallai amodau'r cytundebau hyn olygu cyfleoedd newydd i hyrwyddo allforion Cymru dramor neu gynnyrch newydd yn dod i'r DU i gystadlu yn erbyn cwmnïau Cymreig. Bydd ein hymchwiliad yn mynd i'r afael â'r materion hyn, gan edrych ar oblygiadau cynigion y Llywodraeth a diffyg cytundeb i Gymru. Rydym eisiau cynnig eglurder i fusnesau Cymru a dylanwadu ar drywydd y negodiadau er mwyn cael cytundeb gwell i Gymru.”
Cylch gorchwyl
Mae'r Pwyllgor yn chwilio am gyfraniadau tystiolaeth ysgrifenedig sy'n ystyried y pwyntiau canlynol:
- Beth yw blaenoriaethau Cymru ar gyfer perthnasau masnach gyda'r UE yn y dyfodol, a beth yw goblygiadau unrhyw drefniadau masnach DU-UE a thollau i Gymru?
- Yn dilyn ymadawiad Prydain â'r UE, pa gyfleoedd sydd i Gymru fel rhan o negodiadau masnach gyda gwledydd y tu hwnt i Ewrop, a sut y dylid cynrychioli agweddau pwysicaf economi Cymru mewn gwahanol fodelau masnach?
- Sut y bydd y Protocol Gogledd Iwerddon diwygiedig yn effeithio mynediad nwyddau i Gymru ac o Gymru fel rhan o farchnad fewnol y DU, gan gynnwys trefniadau, prosesau a datganiadau tollau?
- Pa adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar borthladdoedd Cymru er mwyn rheoli trefniadau tollau ar gyfer masnach rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon yn dilyn y cyfnod gweithredu?
- Pa fanteision y gallai porthladdoedd rhydd ddod i Gymru fel rhan o strategaeth fasnach y DU yn sgil Brexit?
- Sut y bydd unrhyw fodelau masnach yn y dyfodol yn effeithio masnach amaethyddol yng Nghymru, gan gynnwys lefelau masnach, tollau ac allforio bwyd a diod o Gymru?
- Pa rôl, os o gwbl, y dylai'r gweinyddiaethau datganoledig eu chwarae ym mholisi masnach y DU, a sut y gellir adlewyrchu prif fuddiannau Cymru orau ym mlaenoriaethau masnachu'r DU ac unrhyw strategaethau negodi yn y dyfodol?
Gwybodaeth bellach
Delwedd: Flickr