Aelodau Seneddol i holi Gweinidogion y Llywodraeth fel rhan o’r ymchwiliadau i’r diwydiant amddiffyn a charchardai Cymru
13 May 2024
Ddydd Mercher 15 Mai, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi Gweinidogion y Llywodraeth ar gyfer ymchwiliadau’r pwyllgor i'r Diwydiant Amddiffyn a Charchardai yng Nghymru.
Am 10.00, bydd Aelodau Seneddol yn clywed gan James Cartlidge, y Gweinidog Caffael Amddiffyn, fel rhan o’r ymchwiliad i’r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru.
Mae mwy na 160 o gwmnïau o Gymru yn cefnogi'r sector amddiffyn, ac mae'r ymchwiliad wedi bod yn ystyried sut mae diwydiant yng Nghymru yn cyfrannu at amddiffyn yn y DU, a sut y gall Llywodraethau'r DU a Chymru gydweithio i ddatblygu cyfleoedd i gwmnïau Cymreig.
Mae'r Aelodau'n debygol o ofyn i'r Gweinidog sut mae'n credu y gall Cymru gyfrannu at uchelgeisiau'r Llywodraeth ar gyfer sylfaen ddiwydiannol amddiffyn y DU, a sut mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn bwriadu cefnogi hyn. Hefyd, efallai y byddant yn trafod i ba raddau mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn meysydd fel datblygu sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru.
Wedyn am 14.10, bydd Edward Argar, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Garchardai, Parôl a'r Gwasanaeth Prawf yn rhoi tystiolaeth ar Garchardai yng Nghymru. Bydd yn ymddangos gydag Ian Barrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru.
Fel maes polisi 'wedi ei gadw yn ôl’, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am garchardai yng Nghymru, er bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am iechyd, addysg a thai, sy'n aml yn croestorri â materion cyfiawnder troseddol.
Mae'r Aelodau yn debygol o holi am berfformiad gwasanaethau carchardai, a pha mor effeithiol yw Llywodraethau'r DU a Chymru wrth gydweithredu ar gefnogi carcharorion yng Nghymru. Efallai y byddant hefyd yn gofyn am gael gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Canolfan Breswyl i Fenywod yn Abertawe, sydd i fod i agor yn 2024.
Mae’r aelodau hefyd yn debygol o drafod gallu carchardai Cymru i ymdopi â'r cynnydd a ragwelir ym mhoblogaeth ein carchardai, a ph’un a fydd mesurau diweddar y Llywodraeth - megis ymestyn y cynllun rhyddhau cynnar i 70 diwrnod - yn llwyddiannus wrth leihau'r pwysau hyn.
Tystion
Y diwydiant amddiffyn yng Nghymru, 10:00:
- James Cartlidge AS/MP, Gweinidog Gwladol (Gweinidog Caffael Amddiffyn)
- Uwch-frigadydd Elizabeth Faithfull-Davies, Cyfarwyddwr Cyfarpar Tir, Cyfarpar Amddiffyn a Chymorth
- Barnaby Kistruck, Cyfarwyddwr, Strategaeth Ddiwydiannol ac Allforion, y Weinyddiaeth Amddiffyn
Carchardai yng Nghymru, 14.10:
- Y Gwir Anrhydeddus Edward Argar AS/MP, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Garchardai, Parôl a’r Gwasanaeth Prawf, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Ian Barrow, Cyfarwyddwr Gweithredol, HMPPS Cymru
Further information
Image credit: HMPPS