Skip to main content

Cadeirydd y Pwyllgor yn annog gweithredu ar "sgandal" posibl llygredd o fwyngloddiau metel

10 May 2024

Mae Stephen Crabb, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn gofyn iddyn nhw ystyried cymryd camau pellach ar lygredd o fwyngloddiau metel segur.

Mewn llythyr at Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae'r Cadeirydd yn ysgrifennu bod "Aelodau'r Pwyllgor yn bryderus iawn am yr hyn a glywsom," mewn sesiwn dystiolaeth ddydd Mercher 8 Mai.

Gallwch ddarllen y llythyr ar wefan y Pwyllgor.

“Mae hyd a lled y llygredd o fwyngloddiau metel yng Nghymru wedi bod yn hysbys ers blynyddoedd lawer," meddai'r Cadeirydd. “Eto i gyd, prin yw’r camau pendant sydd wedi'u cymryd ac mae'r system yn ei chyfanrwydd wedi methu â chyflawni cynnydd.”

Mae'n parhau: “Oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd, gall mater llygredd o fwyngloddiau metel yng Nghymru ddatblygu'n sgandal amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus.”

Yn y llythyr, mae'r Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried:

  • Diwygio cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gynnwys gwaith adfer effeithiol ar dir sydd wedi'i halogi gan lygredd o fwyngloddiau metel
  • Gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i greu a chynnal cronfa ddata o gamau gweithredu gan Awdurdodau Lleol ar dir halogedig
  • Cyflwyno targedau clir er mwyn adfer nifer y safleoedd cloddio metel yn llawn

Further information

Image: House of Commons