Skip to main content

Oes digon yn cael ei wneud i ddatrys llygredd o fwyngloddiau metel yng Nghymru? Aelodau Seneddol yn holi academyddion a rheoleiddwyr

7 May 2024

Ddydd Mercher 8 Mai, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed tystiolaeth am hyd a lled llygredd o fwyngloddiau metel yng Nghymru a'r effeithiau posibl, gan gynnwys risgiau iechyd posibl, a achosir gan fwyngloddiau metel segur.

Yn ddiwydiant mawr yng Nghymru ar un adeg, mae mwyngloddiau sy'n echdynnu metelau fel plwm, sinc ac aur bellach yn segur i raddau helaeth. Ond gall metelau o'r mwyngloddiau hyn ollwng i afonydd, nentydd a llynnoedd lleol, niweidio bioamrywiaeth planhigion ac anifeiliaid lleol, ac achosi risg iechyd i bobl hefyd o bosib.

Er nad Cymru yw'r unig ranbarth sydd â hanes o fwyngloddio am fetelau, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru amcangyfrif yn 2016 bod naw o'r deg dalgylch gwaethaf wedi'u llygru gan fwyngloddiau metel yma yng Nghymru.

Yn y panel cyntaf, bydd arbenigwyr mewn llygredd metel o brifysgolion Lincoln a Nottingham yn rhoi tystiolaeth ar risgiau posibl llygredd o'r fath. Efallai y bydd Aelodau Seneddol am ofyn a oes digon o sylw yn cael ei roi i'r mater hwn, a pham nad oes cynnydd pellach wedi'i wneud wrth lanhau a chyfyngu ar lygredd o fwyngloddiau segur.

Yn yr ail banel, bydd ASau yn clywed gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gyfrifol am ansawdd dŵr a’r llygredd o fwyngloddiau metel segur, a hefyd gan yr Awdurdod Glo, sy’n cefnogi CNC i ddarparu cyngor a chymorth ar reoli effeithiau llygredd o fwyngloddiau metel.

Gall yr Aelodau ofyn i reoleiddwyr pa gamau maen nhw'n eu cymryd i adfer y 129 o safleoedd 'coch' sy'n debygol o fod yn cyfrannu'n sylweddol at lygredd dŵr, ac a oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag effaith llygredd mwyngloddiau metel, gan gynnwys risgiau posibl i iechyd y cyhoedd.

Tystion

 Panel 1, o 09.30:

  • Yr Athro Mark Macklin, Athro Systemau Afonydd a Newid Byd-eang, Prifysgol Lincoln
  • Dr Andrea Sartorius, Cymrawd Ymchwil, Ysgol Meddygaeth a Gwyddorau Milfeddygol  Prifysgol Nottingham

Panel 2, o 10.15:

  • Dave Johnston, Uwch Ymgynghorydd Arbenigol, Mwyngloddiau Metel Segur, a Christian Wilcox, Pennaeth Prosiectau Strategol, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Carl Banton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chynaliadwyedd, a Nick Cox, Pennaeth Rhaglen Mwyngloddiau Metel, yr Awdurdod Glo

Further information

Image: AdobeStock