Skip to main content

Ymweliad gan y Pwyllgor Materion Cymreig i CEM Berwyn fel rhan o'r ymchwiliad i garchardai

2 March 2018

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld â CEM Berwyn ddydd Iau 8 Mawrth fel rhan o'r ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai yng Nghymru. Bydd aelodau'r Pwyllgor yn cwrdd â'r Llywodraethwr, aelodau staff a'r carcharorion yn ystod yr ymweliad i gasglu gwybodaeth.

Yn ystod sesiwn gyntaf yr ymchwiliad, canolbwyntiodd y Pwyllgor ar faterion trawsffiniol, sydd yn codi pan fod troseddwyr o Gymru dan glo yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb. Clywodd hefyd gan dystion am yr achos dros leoli carcharorion mewn cyfleusterau yn agosach i'w cartrefi a'r effaith o wneud hyn ar adsefydlu ac aildroseddu. Edrychodd y Pwyllgor ar gyfleusterau ar gyfer carcharorion benywaidd yng Nghymru, yn ogystal â darpariaeth gwasanaethau sy'n cynnwys iechyd, addysg ac adsefydlu. 

CEM Berwyn

Agorwyd Carchar Berwyn ym mis Chwefror 2017. Gyda lle ar gyfer mwy na 2,000 o garcharorion, hwn yw carchar mwyaf Cymru a Lloegr a'r mwyaf ond un yn Ewrop. Bydd trafodaethau gydag aelodau staff a charcharorion yn debygol o ganolbwyntio ar yr amodau yn y carchar, o ble mae carcharorion yn dod a'r darpariaeth ar gyfer troseddwyr sy'n siarad Cymraeg.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David T.C. Davies AS, cyn yr ymweliad:  

"Ar ôl agor yr ymchwiliad gyda sesiwn dystiolaeth yn canolbwyntio ar rai o'r dadleuon allweddol yn ymwneud â darpariaeth carchardai yng Nghymru, bydd y Pwyllgor yn ymweld â CEM Berwyn er mwyn clywed persbectif y bobl sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol, sef y Llywodraethwr, y staff a'r carcharorion.

Rydym yn edrych ymlaen at gael dealltwriaeth ymarferol o'r materion sydd o bwys iddynt, a beth y gellid ei wneud i sicrhau bod y system carchardai yng Nghymru yn cynnig y cyfle gorau ar gyfer adsefydlu."  

Gwybodaeth bellach

Delwedd: PA