Skip to main content

Y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi Gweinidogion am ddarpariaeth carchardai yng Nghymru

10 January 2019

Yn ystod y sesiwn olaf o'r ymchwiliad i Ddarpariaeth carchardai yng Nghymru, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi Gweinidogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â materion sydd yn cynnwys yr amodau mewn carchardai Cymreig ac effeithiolrwydd y rhaglenni adsefydlu.

Pwrpas y sesiwn

Yn ystod yr ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai, ymwelodd y Pwyllgor â phob carchar yng Nghymru a derbyniodd dystiolaeth gan nifer o dystion gwahanol, gan gynnwys cyn-droseddwyr, undebau, y Prif Arolygydd Carchardai ac unigolion â chanddynt ddiddordeb mewn hyrwyddo addysg mewn carchardai Cymreig. Yn ystod y sesiwn olaf hon, bydd y Pwyllgor yn ystyried materion nad sydd wedi eu trafod yn ystod yr ymchwiliad manwl i ddarpariaeth carchardai, gan gynnwys lleoli carcharorion ymhell o'u cartrefi a darpariaeth ar gyfer troseddwyr benywaidd o Gymru.


Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod rolau gwahanol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wrth ddarparu gwasanaethau carchar a sut y gall y broses hon gael ei rheoli mewn ffordd mwy effeithiol. Yn ogystal, bwriada'r Pwyllgor ystyried amodau carcharorion o Gymru a sut y cânt eu trin, ynghyd â thrafod materion eraill sydd yn cynnwys gofal iechyd, marwolaethau mewn carchardai a'r ddarpariaeth iaith Gymraeg.

Tystion

Mawrth 15 Ionawr, Ystafell Bwyllgor 8

14.15

  • Rory Stewart OBE AS, Gweinidog Gwladol, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Edward Argar AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto