Skip to main content

Y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a llywodraethwyr carchar

6 September 2018

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld â'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ar gyfer sesiwn dystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad sy'n parhau i ddarpariaeth carchardai yng Nghymru.

Llywodraeth y DU sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi sy'n gyfrifol am droseddwyr o Gymru sy'n oedolion a'r rheiny wedi derbyn dedfryd o garchar neu wasanaeth cymunedol, ac mae'r asiantaeth weithredol hon yn gweithredu yn Lloegr a Chymru dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan Lywodraeth Cymru awdurdod dros feysydd polisi sy'n cynnwys iechyd, addysg, tai a chamddefnyddio sylweddau.

Mae'r ymchwiliad hyd yn hyn yn cynnwys derbyn tystiolaeth gan swyddogion carchar, cynrychiolwyr undebau, elusennau sy'n gweithio dros ddiwygio carchardai, y Prif Arolygwr Carchardai, yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf Dros Dro a Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi ymweld â charchardai Berwyn, Parc ac Abertawe er mwyn casglu gwybodaeth. Disgwylir i'r sesiwn ganolbwyntio ar leoliad carcharorion, sut maent yn cael eu trin ac amodau carcharorion yng Nghymru, a rôl Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi. Bydd y Pwyllgor hefyd yn holi'r tystion ynglŷn â pherfformiad carchardai Cymru yn gyffredinol.

Tystion

Dydd Llun 10 Medi, Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

O 9.45 yb

  • Dr Robert Jones, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru

O 10.20 yb

  • Graham Barrett, Llywodraethwr, CEM Abertawe
  • Nick Dann, Is-Gyfarwyddwr Prosiectau, CEM Berwyn
  • Janet Wallsgrove, Cyfarwyddwr G4S, CEM Parc

O 11.30 yb

  • Amy Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (Cymru)

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David T.C. Davies AS, cyn y sesiwn:

"Mae'r ymchwiliad, hyd yn hyn, wedi canolbwyntio ar faterion sy'n cynnwys gwasanaethau mewn carchardai, y gwahaniaeth rhwng cyfleusterau sy'n cael eu rheoli gan y sector gyhoeddus a'r rheiny sy'n cael eu gweithredu gan y sector breifat, ac amodau byw'r carcharorion.

Edrychwn ymlaen at glywed am hyn gan ein tystion ac am faterion allweddol eraill yn ymwneud â chyfiawnder troseddol yng Nghymru, yn ogystal ag edrych yn ehangach ar rôl Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi wrth sicrhau bod carcharorion yn cael y cyfle gorau posib i adsefydlu."

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto